Pob dydd, mae miliynau o bobl yn torri deddfau hawlfraint, heb yn wybod iddynt drwy gyhoeddi lluniau o gerfluniau. Mae'r rheol Rhyddid Panorama yn diffinio'r hawl i dynnu ffotograff o adeiladau modern, ac mewn rhai gwledydd fel Gwlad Belg, yr Eidal neu Ffrainc; mae hynny'n cael ei wahardd a'i gyfri'n 'dorr hawlfraint'. Yma yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, a gwledydd fel yr Almaen, caniateir i chi wneud hynny, ond mae trafodaethau'n digwydd yn Senedd Ewrop ar hyn o bryd ynglŷn ag ailwampio'r rheolau hyn a all weld dileu'r hawl neu'r rhyddid hwn. Daw'r term o'r Almaeneg Panoramafreiheit (hawliau panorama), yn erthygl 59 o Ddeddf Urheberrechtsgesetz, Ceir deddf debyg ym Mhrydain: rhan 62 o Ddeddfau Hawlfraint, Dylunio a Phatentau 1988, a gwledydd eraill. Mae'r ddau lun o'r 'Atomiwm', ar y dde, yn dangos mor wahanol yw'r sefyllfa mewn dwy wlad agos: ceir dau gerflun o'r Atomium, y naill yng Ngwlad Belg a'r llall yn Awstria. Mae'n ddigon posib y torrwyd deddfau Gwlad Belg sawl tro, drwy gyhoeddi llun o'r 'Atomium' ar Trydar a Facebook. Dan arweiniad Julia Reda ASE, ceisir cysoni'r rheolau ar draws Ewrop, gan ddefnyddio deddfau agored gwledydd Prydain fel model i weddill Ewrop. Mae Adroddiad Reda'n galw ar Senedd Ewrop i “sicrhau fod y defnydd o ffotograffau, fideo neu ddelweddau eraill sydd wedi'u gosod yn barhaol mewn llefydd cyhoeddus yn cael eu caniatáu.” Fodd bynnag, mae nifer o Aelod Senedd Ewrop yn ceisio cyflwyno'r isgymal 'anfasnachol' gan newid yr hawl i banorama, sydd felly'n nacàu'r hawl i gyhoeddi lluniau o gerfluniau modern. Byddai hyn yn golygu y byddai ffotograffydd yn torri deddfau Ewropeaidd pe bai'n rhoi llun ar Facebook neu eu huwchlwytho i erthygl ar Owain Glyn Dŵr ar y Wicipedia Cymraeg! Pe bai'r ddeddf newydd i wrthwynebu Rhyddid neu'r hawl i banorama, yna mae elfen chwerthinllyd yn dod i'r darlun! Caniateir tynnu llun y Tŵr Eiffel (oherwydd ei oed) - os tynnir y llun yn ystod y dydd. Ond fin nos, mae'r golau arno cael ei ystyried yn osodiad 3-dimensiwn gwahanol, felly ni fydd hawl gan unrhyw berson i dynnu llun o'r Tŵr yn ystod y nos!
Developed by StudentB